SL(6)424 – Casglu Deunyddiau Gwastraff ar wahân ar gyfer Ailgylchu – Cod Ymarfer Cymru

Cefndir a diben

Mae Rheoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) 2023 (“Rheoliadau 2023”) yn nodi’r gofynion gwahanu yng Nghymru at ddibenion adran 45AA o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 (“EPA 1990”). Mae Rheoliadau 2023 yn gymwys i gyflwyno, casglu a thrin gwastraff mewn cysylltiad ag eiddo annomestig.

Mae adran 45AB(1) o EPA 1990 yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi codau ymarfer at ddiben rhoi canllawiau ymarferol ynghylch sut i fodloni gofynion a osodir gan neu o dan adran 45AA.

Mae Casglu Deunyddiau Gwastraff ar wahân ar gyfer Ailgylchu – Cod Ymarfer Cymru (“y Cod”) wedi’i ddyroddi gan Weinidogion Cymru drwy arfer y pŵer hwn ac mae’n rhoi canllawiau ar sut i fodloni’r gofynion gwahanu yn Rheoliadau 2023.

Y weithdrefn

Dim gweithdrefn.

Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod y Cod gerbron y Senedd fel sy’n ofynnol gan adran 45AB(4)(b) o EPA 1990.

Gwaith craffu o dan Reol Sefydlog 21.7

Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.7 mewn cysylltiad â’r Cod.

1.    Mae’n bosibl nad yw’r Cod yn rhoi canllawiau ymarferol digonol i feddianwyr eiddo annomestig i’w cynorthwyo i nodi gwastraff sydd wedi’i eithrio o’r gofynion gwahanu. Yn benodol:

·         Mae paragraff 4.17 o’r Cod yn rhoi rhywfaint o wybodaeth am y mathau o wastraff nad ydynt o fewn cwmpas y gofynion gwahanu, ond ceir gwybodaeth arall am y mathau hyn o wastraff ym mharagraffau 6.9 a 6.10, paragraffau 7.26 a 7.30 ac yn yr Eirfa. Gallai fod o ddefnydd mwy ymarferol i’r darllenydd pe bai’r wybodaeth hon wedi’i chyfuno’n un adran gynhwysfawr o’r Cod, yn hytrach na chael ei chyflwyno’n dameidiog. 

·         Mae darllenydd o’r Cod sy’n ceisio nodi a yw gwastraff wedi’i eithrio o’r gofynion gwahanu oherwydd ei fod yn beryglus yn cael ei gyfeirio at reoliad 6 o Reoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005 (“Rheoliadau 2005”). Mae rheoliad 6 yn darparu bod gwastraff yn beryglus os yw wedi’i restru fel gwastraff peryglus yn “y Rhestr Wastraffoedd”. Mae rheoliad 4 o Reoliadau 2005 yn diffinio “y Rhestr Wastraffoedd” fel y “rhestr o wastraffoedd a sefydlir gan ‘Benderfyniad y Comisiwn 2000/532/EC sy’n disodli Penderfyniad 94/3/EC sy’n sefydlu rhestr wastraffoedd yn unol ag Erthygl 1(a) o Gyfarwyddeb y Cyngor 75/442/EEC ar wastraff a Phenderfyniad y Cyngor 94/904/EC sy’n sefydlu rhestr o wastraffoedd peryglus yn unol ag Erthygl 1(4) o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/689/EEC ar wastraff peryglus, fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd”. Gall fod yn heriol i’r darllenydd ddod o hyd i’r Penderfyniadau/Cyfarwyddebau perthnasol, ac felly dod o hyd i’r Rhestr Wastraffoedd, er mwyn nodi a ddylid eithrio eitem benodol o wastraff o’r ffrydiau gwastraff sydd wedi’u gwahanu. Ym mharagraff 6.8, ceir linc i ganllawiau ar ddosbarthu gwastraff, ond mae’r dudalen we gov.uk yn awgrymu bod angen i’r darllenydd fod yn gymwys mewn gwastraff peryglus a bod â rhywfaint o wybodaeth am gemeg er mwyn defnyddio’r canllawiau hynny’n llawn.

·         Mae paragraff 6.9 o’r Cod yn diffinio Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Gorfodi) (Cymru) 2014 fel “Rheoliadau 2014”. Mae paragraff 7.30 yn cyfeirio at “gofynion y Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid”, yn hytrach na defnyddio’r term diffiniedig. Gall fod yn aneglur i’r darllenydd at ba ddeddfwriaeth y cyfeirir yma, gan fod paragraff 7.26 yn cyfeirio at Reoliad (EC) 1069/2009, sydd hefyd yn ymwneud â sgil-gynhyrchion anifeiliaid.

·         Mae anghysondeb rhwng y disgrifiad o sgil-gynhyrchion anifeiliaid ym mharagraff 6.10 a’r cofnod yn yr Eirfa ar gyfer “Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid”, a allai beri dryswch i’r sawl sy’n darllen y Cod. Mae paragraff 6.10 yn darparu bod Rheoliadau 2014 yn cynnwys “cig, pysgod, llaeth ac wyau hefyd pan nad ydynt wedi’u bwriadu i gael eu bwyta gan bobl”, ond mae’r cofnod yn yr Eirfa yn nodi bod sgil-gynhyrchion anifeiliaid yn cynnwys “cig, pysgod, llaeth ac wyau, yn aml lle nad oes bwriad i bobl eu bwyta” (pwyslais wedi’i ychwanegu).

2.    Mae anghywirdeb ym mharagraff 7.31 o’r Cod, sy’n nodi bod Gorchymyn Gwahardd Gwaredu Gwastraff Bwyd i Garthffos (Sancsiynau Sifil) (Cymru) 2023 yn darparu na ddylai meddiannydd eiddo annomestig yng Nghymru waredu gwastraff bwyd i’r garthffos gyhoeddus. Fodd bynnag, nodir y gwaharddiad a’r drosedd gysylltiedig yn adran 34D o EPA 1990. Mae Gorchymyn 2023 yn sefydlu’r gyfundrefn sancsiynau sifil am drosedd o dan adran 34D(3) o EPA 1990.

3.    Nodwn yr anghysondebau a ganlyn rhwng fersiynau Cymraeg a Saesneg y Cod.

§  Mae’r fersiwn Saesneg yn cyfeirio sawl gwaith at ddyletswyddau a gofynion sy’n gymwys (“applying”) i bersonau penodedig. Nodir yn y fersiwn Gymraeg fod y dyletswyddau a’r gofynion yn “berthnasol”, sydd i ni yn golygu “relevant” yn Saesneg. Ymddengys i ni fod y defnydd o “applying” yn Saesneg yn gywir, ac y byddai’n fwy priodol defnyddio “cymwys” yn Gymraeg.

§  Ym mharagraff 5.10, mae’r fersiwn Saesneg yn cyfeirio at y senario “Bus, coach, train stations”, yr ydym yn deall ei fod yn golygu gorsafoedd bysiau, gorsafoedd bysiau moethus a gorsafoedd trenau. Mae’r fersiwn Gymraeg yn cyfeirio at y senario “Bws, bws moethus, gorsafoedd trên”. Credwn y dylai’r fersiwn Gymraeg ddarllen “Gorsafoedd bysiau, bysiau moethus a threnau”.

§  Ym mharagraff 8.2, mae’r fersiwn Saesneg yn cyfeirio at “articles” ond mae’r fersiwn Gymraeg yn cyfeirio at “nwyddau”. Credwn y byddai “eitemau” yn gliriach er mwyn cyfateb i “articles” (defnyddir “eitemau” ym mharagraff 8.11).

§  Ym mharagraff 8.21, ceir brawddeg ychwanegol ar ddechrau’r fersiwn Gymraeg nad yw’n ymddangos yn y fersiwn Saesneg. Ymddengys mai’r fersiwn Gymraeg sy’n gywir.

§  Yn y fersiwn Gymraeg o’r Eirfa, mae rhan o’r diffiniad o “Llygryddion Organig Parhaus (POPs)” wedi gwneud ei ffordd i mewn i’r diffiniad o “Gwastraff masnachol”. Hefyd, nid oes diffiniad o “Is-ffracsiwn” yn y fersiwn Gymraeg.

Ymateb y Llywodraeth

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

14 Rhagfyr 2023